Mynd i’r Afael â’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal: Lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru drwy Ymarfer Cyffredinol a phartneriaethau seiliedig ar leoedd
February 5, 2025
Yn dilyn gweminar Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru: Ffordd Ymlaen, mae’r nodwedd sbotolau hon yn edrych ar enghreifftiau o’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru, ochr yn ochr â strategaethau a mentrau ledled Cymru sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau trwy Ymarfer Cyffredinol a phartneriaethau seiliedig ar leoedd.
Mae’r nodwedd sbotolau hon yn cynnwys cyfraniadau astudiaeth achos gan Deep End Cymru, Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal Gogledd Cymru ac Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Beth yw’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal?
Egwyddor y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal yw bod argaeledd gofal meddygol da yn aml yn amrywio’n wrthgyfartal gyda’r angen amdano yn y boblogaeth a wasanaethir.
Mewn gofal sylfaenol, dangoswyd bod cleifion difreintiedig â mynediad llai at ymgynghoriadau wedi’u hamserlennu a’u bod yn treulio llai o amser gyda meddygon teulu yn ystod ymgynghoriadau na chleifion mwy cefnog (Pedersen a Vedsted, 2014). Mae cleifion mewn ardaloedd difreintiedig sydd heb y llythrennedd iechyd, yr hyder a’r galluoged yn llai tebygol o ofyn am atgyfeiriad, tra bod cleifion cefnog yn fwy tebygol o fynnu hynny (Watt, 2018).
Mae’r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn fwy amlwg pan fo gofal meddygol yn fwyaf agored i rymoedd y farchnad, ac yn llai felly pan fo llai o gysylltiad (50 years of the inverse care law, The Lancet).
Cyflwynwyd y ddeddf mewn papur a ysgrifennwyd gan Julian Tudor Hart, o’r enw The Inverse Care Law, a gyhoeddwyd ym 1971. Sylwodd Tudor Hart fod poblogaethau difreintiedig angen mwy o ofal iechyd na phoblogaethau breintiedig ond eu bod yn derbyn llai.
Mae’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal yn ymwneud yn bennaf ag annhegwch mewn gofal iechyd sy’n arwain at anghydraddoldebau cymdeithasol annheg mewn iechyd.
Astudiaeth achos 1 Deep End Cymru: Ymarfer Cyffredinol ar ei orau lle mae ei angen fwyaf.
Un o’r Pum Amod Hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd yw Gwasanaethau Iechyd, ac mae’r rhan fwyaf o’r ymyriadau effeithiol sy’n gwneud gwahaniaeth ar lefel y boblogaeth yn cael eu darparu drwy ofal sylfaenol.
Ffigur 1 Y pum cyflwr hanfodol sydd eu hangen i fyw bywyd iach, ffyniannus (WHO Europe, 2019).
Dylid darparu’r gofal sylfaenol gorau i’r rhai a fyddai’n elwa fwyaf. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal mewn gofal sylfaenol yn dal yn amlwg iawn yng Nghymru, ac mae tystiolaeth o gymunedau difreintiedig yn derbyn llai o ofal na chymunedau mwy cefnog.
Gwahoddodd y prosiect y 100 (o’r 389 o bractisiau meddygon teulu yng Nghymru) oedd â’r gyfran uchaf o’u cleifion yn byw yn yr 20% o gymunedau mwyaf difreintiedig i ymuno â Deep End Cymru. Mae’r practisiau hyn yn cyrraedd bron i 60% o’r 653,413 o bobl sy’n byw yn rhannau mwyaf difreintiedig Cymru. Canfu’r prosiect dystiolaeth o Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal mewn adnoddau megis cyllid a gweithlu – mae ganddynt lwyth gwaith mwy a gweithlu llai.
Er enghraifft, mae gan bartneriaid meddygon teulu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ar gyfartaledd, 764 (29.7%) yn fwy o gleifion na’r rhai yn y 100 practis yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn arwain at annhegwch sylweddol i gleifion o ran yr amser a’r egni sydd ar gael i’r bobl sy’n gofalu amdanynt yn eu practis meddygon teulu. Beth allwn ni ei wneud am yr annhegwch hwn sydd wedi’i sefydlu yn y ddarpariaeth gofal iechyd?
Ffigur 2 Practisiau Meddygon Teulu Deep End yng Nghymru
Ffynhonnell: Stats Cymru | Poblogaeth practisau cyffredinol
Beth mae Deep End Cymru yn ei wneud?
Dechreuodd y mudiad Deep End yn yr Alban yn 2009 ac mae wedi ymestyn i raglenni lluosog yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys yn fwyaf diweddar yng Nghymru lle lansiwyd Deep End Cymru ddiwedd 2022. Mae Deep End Cymru wedi’i letya gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Deep End Cymru yn fudiad ar lawr gwlad sy’n datblygu cymorth ar y cyd i greu newid i wella gwasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau iechyd i bobl â’r anghenion iechyd mwyaf. Mae’n ffordd o ddod â lens tegwch iechyd cryfach i bob busnes fel arfer, er enghraifft, mewn cynlluniau Clwstwr a rhaglenni Presgripsiynu Cymdeithasol. Ei nod yw ychwanegu gwerth i’r cymunedau hynny sy’n aml yn llai cymwys i gael mynediad at wasanaethau presennol ac i elwa arnynt. Gwahoddodd Deep End Cymru staff gofal sylfaenol rheng flaen i gwrdd mewn amser wedi’i neilltuo i archwilio eu heriau cyffredin a datrysiadau posibl. Ymdriniwyd â’r themâu canlynol: Gweithlu, Addysg, Eiriolaeth ac Ymchwil (WEAR).
Mae Deep End Cymru wedi:
- Archwilio datrysiadau i anghenion anfeddygol ac mae wrthi’n datblygu achos busnes ar gyfer gweithwyr cyswllt Deep End.
- Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar sut y gall hyfforddiant ac addysg ar gyfer holl aelodau’r tîm gofal sylfaenol droi at gynnwys meddygaeth amddifadedd.
- Creu cysylltiadau cryf â Phrifysgol Caerdydd gyda gweithgareddau ymchwil, gan gynnwys astudiaeth ansoddol o weithio yn y Deep End, ac astudiaeth ar y canlynol: Exploring the equity of distribution of general medical services funding allocations in Wales: a time-series analysis | BJGP Open.
- Defnyddio gwybodaeth i eiriol dros ein cymunedau a’n staff.
Sylwadau i gloi gan Deep End Cymru
Mae Ymarfer Cyffredinol mewn argyfwng yng Nghymru ac mae hyn yn cael hyd yn oed mwy o effaith ar gymunedau lle mae’r practis meddygon teulu yn achubiaeth pan fo cynifer o wasanaethau eraill wedi lleihau. Mae cyfranogwyr Deep End yn dweud eu bod wrth eu bodd yn gweithio yn eu practisiau a’u bod yn llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth i deuluoedd a chymunedau sydd eu hangen fwyaf.
Mae rhwydwaith Deep End yn ceisio rhoi llais i’r rhai sy’n aml â syniadau gwych am ddatrysiadau y byddai’r system iechyd gyfan yn elwa arnynt. Mae Deep End Cymru wedi paratoi adnodd o syniadau gwych ac yn eu rhoi ar waith heb oedi.
Mae practisiau Deep End yn fwy tebygol o gau, uno neu gael eu cymryd drosodd gan gwmnïau allanol. Mae gan Deep End Cymru rôl mewn eirioli ar ran practisiau sydd â’r lleiaf o amser i wneud hyn drostynt eu hunain ac sy’n wynebu’r risg fwyaf o fynd i’r wal, gan adael eu cleifion dan anfantais hyd yn oed fwy.
Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu, gweler Prosiect Deep End Cymru, ac Adroddiad Cam Cyntaf Deep End Cymru 2024 a chysylltwch â DeepEndWales@rcgp.org.uk
Astudiaeth achos 2 Rhaglen y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal – lleihau anghydraddoldebau iechyd yng ngogledd Cymru
Yng ngogledd Cymru, gall dynion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl byw tua 12 mlynedd yn llai mewn iechyd da o’u cymharu â’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac mae bron 11 mlynedd o wahaniaeth ymhlith menywod. Y bwlch mewn disgwyliad oes adeg geni rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yw 7 mlynedd ar gyfer dynion a 6 mlynedd ar gyfer menywod (Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2025).
Ffigur 3 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc) 2019, Cymru
Tabl 1 Y 10 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) fwyaf difreintiedig yng Ngogledd Cymru
Awdurdod lleol | LSOA | Safle Malc* |
Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 2 | 1 |
Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 1 | 2 |
Wrecsam | Ffordd y Frenhines 1 | 9 |
Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 3 | 11 |
Sir Ddinbych | De-orllewin y Rhyl 2 | 19 |
Conwy | Glyn (Conwy) 2 | 20 |
Wrecsam | Wynnstay | 45 |
Sir Ddinbych | De-orllewin y Rhyl 1 | 57 |
Conwy | Abergele Pensarn 2 | 70 |
Conwy | Tudno 2 | 78 |
Mae rhagor o wybodaeth am Malc ar gael yn: https://www.llyw.cymru/mynegai-amddifadedd-lluosog-cymru
Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal Gogledd Cymru
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain rhaglen waith arloesol i roi hwb i ddull systemau o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd lleol ac i greu gogledd Cymru iachach. Y nod oedd creu dull partneriaeth seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau iechyd gyda dull gweithredu o’r cychwyn cyntaf yn cydnabod bod penderfynyddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith sylweddol ar iechyd ond eu bod y tu hwnt i gwmpas y GIG o ran mynd i’r afael â nhw.
Roedd y Rhaglen yn gweithio gyda thri chlwstwr gofal sylfaenol arloesol a oedd wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan.
Map clwstwr ar gael yma.
Cynhaliwyd tri gweithdy undydd ym mhob un o’r tri chlwstwr ym mis Medi, Hydref a Thachwedd 2023, oedd yn cynnwys dros 60 o bartneriaid lleol ar draws y tri chlwstwr. Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth am anghydraddoldebau iechyd a’r system, gan edrych ar ddata a gwybodaeth leol trwy ddangosfwrdd pwrpasol, ac yna’n annog datblygiad o leiaf 38 o brosiectau neu ddatblygiadau arloesol (ar draws tri chlwstwr), gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Diolch i brofiadau byw a straeon gan y rhai a gymerodd ran, roedd gwir gydweithio ac awydd i newid y status quo. Roedd enghreifftiau o ddatblygiadau arloesol yn cynnwys cydweithio ar dlodi bwyd, datblygu canllawiau i hyrwyddo gofal cynhwysol i bobl ddigartref a mentrau ataliol drwy gydweithio rhwng y Tîm Atal Strôc a sefydliadau eraill megis Mind a marchnadoedd ffermwyr.
Gwerthuso ac Effaith: Cyfleoedd a heriau’r rhaglen
Gwerthuswyd y Rhaglen yn allanol gan Urban Foresight. Mae dolen i’r adroddiad llawn ar gael yma. Dangosodd y gwerthusiad fod y rhaglen wedi cyflawni ei nod cyffredinol a’i bod yn lasbrint ar gyfer yr hyn sydd ei angen i ddatblygu a galluogi dull partneriaeth seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Roedd heriau ariannol yn golygu nad oedd cyllid ychwanegol ar gael i glystyrau i gefnogi eu datblygiadau arloesol. Gyda hyn mewn golwg, roedd cadernid pobl, cymunedau, rhanddeiliaid a sefydliadau i’w ganmol a daeth eu gallu i ddefnyddio asedau ac adnoddau sydd eisoes mewn cymunedau yn ganolbwynt i waith sy’n dangos canlyniad pwysig gwarchod a defnyddio asedau sydd eisoes ar gael.
Mae cyfyngiadau ar barhau i ddatblygu’r datblygiadau arloesol yn cynnwys cyfyngiadau ariannol, y gweithlu ac amser – mae llawer o’r gwaith yn cael ei ymgorffori mewn gweithlu sydd eisoes dan bwysau ar draws yr holl sefydliadau.
Mae manylion y gwerthusiad a gynhaliwyd gan Urban Foresight, ar gael yn: Tackling health inequalities in Wales – Urban Foresight
Sylwadau i gloi o Raglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal Gogledd Cymru
Mae’r rhaglen waith hon wedi gwella galluoedd, asedau, dealltwriaeth a pherthnasoedd a rennir ar draws sectorau mewn modd llwyddiannus, ac wedi annog ac ysbrydoli arloesedd lleol ar draws y tri chlwstwr arloesol. Mae wedi gwella galluoedd ar draws y system, wedi arwain at gysylltiadau newydd, wedi annog arloesi, ac wedi cefnogi ffyrdd mwy effeithlon o weithio. Mae’r rhai sy’n gweithio mewn cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd gyda gwir awydd a phwrpas i leihau anghydraddoldebau iechyd trwy weithio mewn partneriaeth, gan ystyried y penderfynyddion ehangach sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Y gobaith yw y bydd y dull arloesol hwn yn dod â ni gam yn nes at newid hirdymor yn ein dulliau o weithio ac yn ein galluogi i ystyried newid mewn meddylfryd er mwyn cyflwyno cynaliadwyedd mewn gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned.
Astudiaeth achos 3 Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd mewn Gofal Sylfaenol (Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Yn gynnar yn 2023, daeth yr isadran Gofal Sylfaenol â data allweddol ynghyd ledled Cymru i ddangos sut mae’r ddarpariaeth o feddygon, nyrsys a staff eraill yn is, er gwaethaf yr anghenion cynyddol sydd wedi’u dogfennu’n dda mewn rhai o’n cymunedau. Mae’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal yn dal ar waith yng Nghymru. Bu tystiolaeth gynyddol dros y 50 mlynedd diwethaf ar sut y gall gofal sylfaenol helpu i fynd i’r afael â’r deddfau gofal gwrthgyfartal hyn. Dr Julian Tudor-Hart oedd un o’r rhai cyntaf i ddisgrifio rhai o’r dulliau hyn. Er ei fod yn cydnabod bod gallu meddyg teulu i fynd i’r afael ag amddifadedd yn gyfyngedig, mae llawer y gellir ei wneud trwy’r rôl. Trwy ddeall y gymuned a bywydau cleifion, gall helpu’r meddyg teulu i ddarparu gofal sylfaenol effeithiol o ansawdd uchel a all arwain at ganlyniadau iechyd gwell a helpu i liniaru rhai o’r penderfynyddion ehangach hyn. Gan ddefnyddio ei wybodaeth ddofn o’r gymuned a’i gleifion, canolbwyntiodd ar ataliaeth, ymyrraeth gynnar a thriniaethau tystiolaeth orau, a rhoddodd y rhain ar waith trwy gydweithrediad lleol.
Gyda gwaddol Dr Hart mewn cof, mae Rhaglen Anghydraddoldebau Iechyd Gofal Sylfaenol yn gweithio i ymgorffori anghydraddoldebau iechyd yn y system Gofal Sylfaenol yng Nghymru. Ers ei sefydlu yn chwarter olaf 2023, mae’r rhaglen wedi estyn allan i ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru ac wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau i alluogi gofal sylfaenol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal. Mae hyn yn cynnwys data a gwybodaeth, cyfres o astudiaethau achos ac adolygiadau tystiolaeth, adnoddau hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys cyfeiriadur addysgol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, cyfres o weminarau ar gyfer gofal sylfaenol ar gynhwysiant iechyd, a phecyn cymorth hunanasesu tegwch iechyd ar gyfer gofal sylfaenol. Mae dolen i’r tudalennau gwe sydd newydd eu datblygu ar gael yma.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n datblygu Fframwaith Gweithredu ar gyfer gofal sylfaenol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Cynhaliwyd tri gweithdy wyneb yn wyneb i randdeiliaid ym mis Hydref 2024 er mwyn cyd-ddatblygu meysydd gweithredu allweddol. Mae’r sgwrs yn mynd rhagddi gyda gweithdai ar-lein ychwanegol gyda rhanddeiliaid allweddol a defnyddwyr gwasanaeth yn gynnar yn 2025, a’r disgwyl yw y bydd fframwaith gweithredu gyda chynllun gweithredu strategol yn cael ei ddatblygu erbyn mis Ebrill 2025.
Mae her hacathon a gynigir gan Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn mynd rhagddi gan Gydweithrediaeth Modelu GIG Cymru. Mae’r her sy’n cael ei chefnogi gan grŵp llywio yn ystyried Dichonoldeb ar gyfer nodi cyflyrau cronig ar lefelau clystyrau a byrddau iechyd sy’n cael yr effaith fwyaf ar anghydraddoldebau iechyd cynyddol yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am y rhaglen anghydraddoldebau neu pe hoffech fod yn rhan o unrhyw agwedd ar y rhaglen, cysylltwch â ni drwy e-bost pcd.business.support@wales.nhs.uk
Mae’r gweminar ar gael i’w gweld yma.
Adnoddau defnyddiol
- Tudalen we Deep End Cymru. Ar gael o: Prosiect Deep End Cymru
- Safe surgeries: Safe Surgery can be any GP practice which commits to taking steps to tackle the barriers faced by many migrants in accessing healthcare. Ar gael o: Safe Surgeries – Doctors of the World
- Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd trwy Ofal Sylfaenol. Ar gael o: Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd drwy Ofal Sylfaenol – Gofal Sylfaenol Un
- Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol. Ar gael o: Iechyd Cynhwysiant – Gofal Sylfaenol Un
- Health Equity Evidence Centre. Ar gael o: Welcome to the Health Equity Evidence Centre – Health Equity Evidence Centre
- Evaluation of the Betsi Cadwaladr UHB Inverse Care Law Programme. Ar gael o: Tackling health inequalities in Wales – Urban Foresight