Gwella tegwch iechyd trwy roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
November 8, 2023
Y mater
Mae gan blant y risg uchaf o dlodi o bob grŵp oedran yng Nghymru: mae bron i un o bob tri neu 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mae plant mewn teuluoedd mwy o faint, plant mewn teuluoedd un rhiant, a phlant sy’n byw ar aelwydydd heb waith, mewn mwy o berygl.
Diffinnir tlodi incwm cymharol fel byw ar aelwydydd sy’n ennill llai na 60% o ganolrif incwm aelwydydd y DU (ar ôl costau tai). Mae prif ddangosydd tlodi plant yn defnyddio y diffiniad yma, ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio set ehangach o ddangosyddion allweddol, gan gynnwys:
- Canran y plant sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol lle mae o leiaf un oedolyn yn gweithio (ar ôl costau tai).
- Canran y plant sy’n byw mewn aelwydydd heb waith.
- Canran y babanod (genedigaethau byw) a anwyd â phwysau geni isel (llai na 2,500 gram).
Risg plant o fod mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru (FYE 2020 i FYE 2022)
Mae tystiolaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn gwaethygu effeithiau tlodi plant ar ddatblygiad plant nawr, ac eu canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan arwain at:
- ostyngiad mewn disgwyliad oes plant sy’n cael eu magu yn yr ardaloedd tlotaf Cymru yn ystod cwrs eu bywyd;
- wreiddio ymhellach yr anghydraddoldebau presennol mewn iechyd rhwng y plant gwaethaf eu byd hyn a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwell eu byd yng Nghymru; a
- rhai plant a theuluoedd yn cael eu dal mewn cylch o dlodi ac anfantais, ar draws cenedlaethau.
Cysyniadoli effeithiau iechyd y cyhoedd yr argyfwng costau byw ar blant yng Nghymru.
Sut y gellir gwella canlyniadau tegwch iechyd i blant?
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle i adnewyddu ymdrechion i leihau tlodi plant mewn ffyrdd sy’n effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n adlewyrchu’r heriau ychwanegol a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw.
Meysydd blaenoriaeth polisi ar gyfer gweithredu
Amlygodd dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 11 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i leihau effaith tlodi plant a’r argyfwng costau byw ar annhegwch iechyd ymhlith plant yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Mae’r ymatebion polisi posibl yn anelu at gefnogi ac adeiladu ar waith sydd eisoes yn mynd rhagddo ar lefel genedlaethol a lleol i fynd i’r afael â thlodi plant, yr argyfwng costau byw a’u heffaith ar iechyd a llesiant plant.
Gweler isod enghreifftiau o fentrau sy’n darparu cymorth ariannol i blant a theuluoedd, sy’n cefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i leihau ansicrwydd bwyd, ac sy’n lleihau cost mynychu’r ysgol. Mae’r enghreifftiau’n cael effeithiau tymor byr (e.e. lleihau straen ariannol ar y teulu) sy’n cyfrannu at sgil-effeithiau hirdymor, cadarnhaol ar degwch iechyd (e.e. drwy wella mynediad plant at waith sy’n talu’n dda yn y dyfodol drwy wella presenoldeb yn yr ysgol a chyrhaeddiad addysgol mewn plentyndod).
Esiampl 1
Rhwng 2009-2011, darparodd Llywodraeth y DU gyfandaliad o £190 i bob menyw feichiog, gyda’r nod o’u helpu i fforddio bwyd maethlon yn ystod beichiogrwydd a lleihau straen. Canfu astudiaeth fod babanod a anwyd i famau a dderbyniodd y grant 3-6% yn drymach ac 11% yn llai tebygol o gael eu geni’n gynamserol. Gwelwyd effaith fwy ymhlith babanod a anwyd i famau iau ar incwm isel. Roedd y gwelliannau hyn yn iechyd babanod yn debygol o fod o ganlyniad i’r grant yn lleihau straen i fenywod beichiog. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod manteision iechyd amlwg i’w gwneud o ddechrau budd-daliadau plant cyffredinol yn ystod beichiogrwydd. Mae hefyd yn dangos bod gan ymyriadau bach, cynnar y potensial i leihau anghydraddoldeb yn y tymor hir, gydag enillion uchel ar fuddsoddiad.
Esiampl 2
Mewn ymateb i dystiolaeth nad yw cymorth bwyd brys ‘yn ateb hirdymor i ansicrwydd bwyd’, sefydlodd Llywodraeth yr Alban y Gronfa Trawsnewid Bwyd Teg (FFTF). Nod y gronfa yw annog symudiad oddi wrth gymorth bwyd brys i ddarparu atebion hirdymor i ansicrwydd bwyd, a arweinir gan y gymuned. Daeth adolygiad o FFTF i’r casgliad bod y rhan fwyaf o’r 19 o brosiectau astudiaeth achos wedi llwyddo i ehangu eu darpariaeth bwyd brys yn brosiectau ‘cyfiawnder bwyd’ cymunedol sy’n mynd i’r afael â gwerth cymdeithasol bwyd.
Esiampl 3
Yng Nghyngor Dinas Glasgow, mae teuluoedd sy’n gymwys i gael grantiau gwisg ysgol yn cael y taliadau’n awtomatig, yn seiliedig ar eu cymhwysedd i gael budd-dal tai a threth cyngor. Byddai system optio i mewn awtomatig hefyd yn bosibl yng Nghymru, gan fod gan awdurdodau lleol y wybodaeth gymhwysedd angenrheidiol.
Casgliad
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y gall y meysydd gweithredu polisi ac astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn ein hadroddiad costau byw sy’n canolbwyntio ar blant, ynghyd â’n hadroddiad blaenorol a edrychodd ar oblygiadau argyfwng costau byw i iechyd y cyhoedd ar draws y boblogaeth gyfan, helpu i lywio datblygiad Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru a darparu fframwaith ar gyfer blaenoriaethu iechyd a llesiant plant yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng tra hefyd yn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru.
Cyfeiriadau
Llywodraeth Cymru. (2023). Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.
Roberts, M., Petchey, L., a Morgan, L. (2023). Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu. Caerdydd: Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roberts, M., Petchey, L., Challenger, A., Azam. S., Masters, R., a Peden, J. (2022). Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus. Caerdydd: Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Reader. M. (2023). The infant health effects of starting universal child benefits in pregnancy: Evidence from England and Wales. Journal of Health Economics, 89, 102751.
Hammond, C. (2018). Review of the Fair Food Transformation Fund for Scottish Government. Caeredin: Llywodraeth yr Alban.
Comisiynydd Plant Cymru. (2022). Plant yn pryderu am gael digon i’w fwyta. Port Talbot: Comisiynydd Plant Cymru.