Deall Sut Mae Anghydraddoldeb Rhywedd yn Dylanwadu ar Iechyd
August 12, 2026
Mae’r amodau y mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt yn dylanwadu’n fawr ar ganlyniadau ac yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd. Mae rhai grwpiau’n profi iechyd gwaeth nag eraill.

Mae tegwch rhywedd yn ffactor allweddol sy’n sbarduno cymdeithas ffyniannus a chynhwysol, ac yn galluogi cyfranogiad llawn mewn bywyd economaidd a chymdeithasol. Fodd bynnag, mae annhegwch rhywedd (gwahaniaethau ac anghydraddoldebau sy’n seiliedig ar ryw) yn parhau i ddylanwadu ar amlygiad i risg, mynediad at gyfleoedd, a chanlyniadau iechyd cyffredinol ymhlith menywod a phlant. Mae’r anghydraddoldebau hyn yn gorgyffwrdd â ffactorau eraill fel tlodi, ethnigrwydd ac anabledd sy’n golygu bod yr anfanteision yn gwaethygu a bod profiadau bywyd yn cael eu llunio mewn ffyrdd cymhleth. Gall annhegwch rhywedd gael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol, a gall y canlyniadau ymestyn o ganlyniadau iechyd unigol i anghydraddoldebau systemig ehangach yn yr hirdymor.

Ffigur 1: Deall Sut Mae Annhegwch Iechyd a Chroestoriadedd yn Effeithio ar Iechyd
Mae fframwaith y Pum Amod Hanfodol yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau yr ystyrir rhywedd ar draws polisi a buddsoddiad economaidd er mwyn deall yn well yr hyn sydd wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd, a mynd i’r afael â nhw. Yn hytrach nag edrych ar iechyd menywod o safbwynt gofal iechyd yn unig, mae’n pwysleisio’r angen am gamau gweithredu cydlynol ar draws penderfynyddion ehangach iechyd er mwyn cyflawni canlyniadau tecach.

Ffigur 2: Rhywedd fel thema drawsbynciol i’r Pum Amod Hanfodol ar gyfer Iechyd
Anghydraddoldebau Iechyd yng Nghymru
Yng Nghymru, mae iechyd menywod yn adlewyrchu anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd ehangach. Rhwng 2022 a 2024 yng Nghymru, gallai menywod a oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ddisgwyl treulio tua 47 mlynedd yn unig mewn iechyd da, o’i gymharu â thua 66 mlynedd yn achos menywod a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn cynrychioli bwlch o 19 mlynedd mewn disgwyliad oes iach rhwng y cymunedau mwyaf difreintiedig a’r rhai lleiaf difreintiedig, sy’n amlygu gwahaniaethau sylweddol mewn ansawdd bywyd.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru ac ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree wedi dangos bod menywod yn fwy tebygol o fyw mewn amddifadedd materol a phrofi ansicrwydd ariannol. Nid yw cyflogaeth bob amser yn diogelu rhag tlodi, ac mae llawer o fenywod mewn gwaith â chyflog is a llai diogel. Mae’r achosion hyn o annhegwch yn effeithio’n uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol gydag anfanteision hirdymor sy’n gysylltiedig â’r cenedlaethau hefyd. Tynnodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl sylw at y cysylltiad rhwng annhegwch rhywedd a thlodi plant yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw’r canlyniadau hyn yn anochel; maent yn cael eu llunio gan amodau cymdeithasol a gellir eu gwella trwy gamau gweithredu wedi’u targedu ar draws y system.
Sgiliau ar gyfer Arweinwyr Systemau i Leihau Anghydraddoldebau yng Nghymru
Yn 2026, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gynllun peilot ar gyfer prosiect hyfforddi seiliedig ar weithdai ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â datblygu ymateb strategol i’r Cynllun Iechyd Menywod. Mae’r Cynllun Iechyd Menywod yn nodi dull cwrs bywyd o wella iechyd menywod a lleihau anghydraddoldebau drwy atgyfnerthu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i ymgorffori tegwch mewn cynllunio, cyflenwi a gwerthuso.
Beth yw’r dull?
Roedd y gwaith hwn yn treialu sut y gallai cymhwyso dull croestoriadol sy’n ystyriol o rywedd gael ei drosi’n newid system ymarferol, a hynny drwy ddefnyddio dulliau iechyd y boblogaeth. Nod y prosiect oedd:
- Gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith tegwch rhywedd a dulliau croestoriadol ar ganlyniadau iechyd
- Cefnogi’r gwaith o gymhwyso dulliau iechyd y boblogaeth wrth ddatblygu Hybiau Iechyd Menywod
- Hyrwyddo defnyddio data a thystiolaeth wedi’u dadgyfuno i lywio’r gwaith cynllunio a gwerthuso
- Ymgorffori cyd-gynhyrchu a dulliau cynhwysol wrth ddylunio gwasanaethau
Roedd y gweithdy Damcaniaeth Newid yn elfen ganolog o’r prosiect a ddaeth â rhanddeiliaid ynghyd o Fyrddau Iechyd a sefydliadau partner, gan gynnwys Triniaeth Deg i Fenywod Cymru. Galluogodd y dull cydweithredol hwn ddealltwriaeth gyffredin o achosion sylfaenol o annhegwch rhywedd mewn iechyd, ochr yn ochr â’r rhwystrau a’r galluogwyr i newid.
Roedd y gweithdai’n cynnwys 45 o randdeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cynrychiolaeth o nifer o Fyrddau Iechyd a’r sector gwirfoddol. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gellir trosi dull cydweithredol sy’n ystyriol o rywedd yn newid system ymarferol. Darganfu’r gwerthusiad fod 93% o’r cyfranogwyr wedi nodi bod y gweithdy yn berthnasol iawn neu’n eithriadol o berthnasol. Adroddodd 100% o’r cyfranogwyr fod ganddynt well dealltwriaeth o sut y gall data lleol wedi’u dadgyfuno (e.e. rhyw, ethnigrwydd, amddifadedd) lywio blaenoriaethau iechyd menywod.
Roedd yr allbynnau cyffredinol yn cynnwys fframwaith Damcaniaeth Newid a gynhyrchwyd ar y cyd, adroddiad naratif, a chyfres o ddeunyddiau hyfforddi a fydd ar gael ar Borth Iechyd Menywod, Y Tŷ Dysgu, Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Llywio Camau Gweithredu Tegwch Rhywedd Drwy Ddatrysiadau sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
Yn ogystal â hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer Cymru decach ac iachach trwy ddau adroddiad diweddar ar degwch rhywedd.
- Crynodeb ar degwch rhywedd a chyfranogiad economaidd sy’n archwilio’r ffactorau rhywedd sy’n achosi anweithgarwch economaidd yng Nghymru yw’r adroddiad cyntaf. Mae’n tynnu sylw at ddulliau polisi fel prif ffrydio rhywedd, cyllidebu sy’n ymatebol i rywedd ac egwyddorion economi llesiant.
- Datblygwyd yr ail adroddiad mewn partneriaeth â Phrifysgol John Moores Lerpwl ac mae’n archwilio sut mae profiadau rhywedd ar draws cwrs bywyd yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd a thlodi plant, a sut mae ffactorau fel gofalu, anabledd, ethnigrwydd ac incwm yn llywio canlyniadau.
Gyda’i gilydd, mae’r adroddiadau hyn yn tynnu sylw at yr angen am gamau gweithredu cydlynol sy’n ymatebol i rywedd ar draws systemau cyflogaeth, gofal a diogelu cymdeithasol er mwyn lleihau annhegwch a gwella canlyniadau iechyd.
Casgliad
Mae annhegwch rhywedd yn ffactor sylweddol sy’n sbarduno anghydraddoldebau iechyd; maent yn dylanwadu ar gyfleoedd, profiadau a chanlyniadau drwy gydol oes. Fel y mae profiad Cymru yn ei ddangos, mae gwella iechyd menywod yn gofyn am fwy na rhoi sylw i anghenion iechyd unigol; mae’n gofyn am fynd i’r afael â’r ffactorau cymdeithasol, economaidd a strwythurol ehangach sy’n llunio iechyd a llesiant. Drwy fabwysiadu dulliau cwrs bywyd, croestoriadol sy’n ystyriol o rywedd, a thrwy feithrin gallu gweithwyr proffesiynol i ymgorffori tegwch mewn cynllunio, darparu a gwerthuso, mae Cymru’n cymryd camau tuag at greu systemau iechyd tecach.