Skip to content

Economeg iechyd a modelu

A person cycling in front on many different town like landmarks

Adnoddau

ERTHYGL WEDI'I HADOLYGU GAN GYMHEIRIAID

Perthnasoedd economaidd ac anghydraddoldebau iechyd: gwella argymhellion iechyd y cyhoedd

Mae'r erthygl hon yn cydnabod y perthnasau economaidd rhwng grwpiau cymdeithasol sy'n wynebu anghydraddoldebau iechyd. Mae'r erthygl hon yn edrych yn benodol ar rent, llog, enillion cyfalaf, elw, monopoli a menter a'u heffaith ar anghydraddoldebau iechyd. 

Perthnasoedd economaidd ac anghydraddoldebau iechyd: gwella argymhellion iechyd y cyhoedd


CANLLAW

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol

Mae'r canllaw ymarferol hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu proses gam wrth gam o sut i syntheseiddio, trosi a chyfathrebu tystiolaeth iechyd y cyhoedd ac economeg iechyd i bolisi ac arfer, gan gyflwyno'r achos dros fuddsoddi cynaliadwy mewn lles a thegwch iechyd. Mae'r canllaw yn dadlau bod iechyd y boblogaeth yn ased economaidd ac yn fuddiant cynhyrchiol. Y bwriad yw helpu rhanddeiliaid allweddol, eiriolwyr dros iechyd a thegwch, gweision sifil a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a rhai nad ydynt yn ymwneud ag iechyd ond sydd â rôl wrth gyfeirio, dylanwadu ar neu lunio polisi ac arfer cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol


CANLLAW

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth

Mae'r canllaw hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu opsiynau polisi ar gyfer buddsoddi blaenoriaethol yng Nghymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael yng Nghymru ac yn Ewrop. Mae'r opsiynau polisi yn ymdrin â meysydd o faich a chostau uchel, yn ogystal â dangos cyd-fanteision (enillion) i'r economi, cymdeithas a'r amgylchedd, gan gynnwys buddsoddi mewn addysg a gofal cynnar o safon, cyfleoedd dysgu gydol oes a hyfforddiant swyddi a chefnogi dysgu oedolion a llythrennedd iechyd. Gall y canllaw gael ei ddefnyddio gan wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ar draws llywodraeth genedlaethol a lleol, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus ym mhob sector arall yng Nghymru.

Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Canllaw ar gyfer Buddsoddiad Traws-sector ar Sail Tystiolaeth


ADRODDIAD

Effaith Cyllid Rhanbarthol ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar effaith colli Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar iechyd a llesiant a’r risgiau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil cynllun newydd. Ei nod yw hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â dyrannu a rheoli cynlluniau cyllido rhanbarthol yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn cynnwys darlun allweddol o bwysigrwydd presennol Cronfeydd Strwythurol yr UE i iechyd a llesiant ardaloedd lleol ggan ganolbwyntio ar wahanol grwpiau poblogaeth.

Effaith Cyllid Rhanbarthol ar Iechyd a Llesiant yng Nghymru


ERTHYGL

Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru

Mae anghydraddoldebau eang mewn iechyd a defnydd o wasanaethau gofal iechyd rhwng pobl sy’n byw mewn cymdogaethau mwy difreintiedig a’r rhai sy’n byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig yng Nghymru. Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd drwy gyfuniad o ymgyrchoedd hybu iechyd a pholisïau ymyrraeth gynnar wedi’u targedu at gymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a lles, yn ogystal ag arbedion i GIG Cymru.

Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru - Saesneg yn unig